Cwrs Cymraeg Graenus 1
Mae'r modiwl 'Cymraeg Graenus 1', a gynigir fel rhan o ddarpariaeth Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth ar Lefel 4 yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, wedi ei gynllunio i loywi sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr Cymraeg i oedolion profiadol. Ynddo rhoir sylw arbennig i Gymraeg llenyddol a'r math o Gymraeg a geir mewn dogfennau swyddogol sy'n golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer y sawl sydd am ddefnyddio'r Gymraeg at ddibenion academaidd.
O ran gramadeg, trafodir:
- Orgraff y Gymraeg
- Y fannod ac ymadroddion dangosol
- Yr enw
- Ansoddeiriau
- Rhifau
- Priod-ddulliau
- Y cymal enwol
- Rhagenwau
- Y frawddeg ferfol, y frawddeg enwol a chymalau pwysleisiol
Yn ogystal, ar ddiwedd pob uned, ceir fideos byr am ryw agwedd ar hanes Cymru neu'r diwylliant Cymraeg.
Deilliannau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl Cymraeg Graenus 1 yn llwyddiannus, bydd myfyriwr yn gallu:
- Cyflwyno ffeithiau a dadleuon yn rhesymegol ar ffurf traethawd yn y Gymraeg
- Trawsieithu sgyrsiau technegol i'r Gymraeg
- Dadansoddi Cymraeg safonol drwy ddefnyddio'r eirfa dechnegol briodol
Phylip Brake
Cydlynydd